Llyfr Eseia 35
1YR anialwch a’r anghyfanheddk a lawenychant o’u plegid; y ‘diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn. º
2Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd a llawcnydd ac a chan: gogoniant Libanus a roddir iddo, godidowgrwydd Carmel a Saron: hwy a welant ogoniant yr ARGLWYDD, a godidowgrwydd ein Duw ni. º
3Cadarnhewch y dwylo llesg, a chryfhewch y gliniau gweiniaid. º
4Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich Duw chwi a ddaw a dial, ie, Buw a thaledigaeth; efe a ddaw, ac a’ch achub chwi.; º
5Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorif. º
6Yna y llama y cloff fel hydd, ac y cAn tafod y mudan: canys dytroodd a dyr allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. º
7Y crastir hefyd fydd yn llyn, a’r til sychedig yn ffynhonnau dy&oedd; yn nhngfa y dreigiau, a’u gorweddfa, y bydd cyfle corsennau a brwyn. º
8Yna y bydd priffordd, a ffordd; a Ffordd sanctaidd y gelwir hi: yr halogedig aid a ar hyd-ddi; canys hi a fydd i’r rhai hvnny: a rodio y ffordd, pe byddent ynfydion, ni chyfeiliornant. º
9Ni bydd yno lew, a bwystfil gormesol ni ddring iddi, ac nis ceir yno; eithr y rhai gwaredol a rodiant yno. º
10A gwaredigion yr ARGLWYDD a ddychwelant, ac a ddeuant i Seion a chaniadau, ac a llawenydd tragwyddol ar eu pen: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar a ffy ymaith.