The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 37

1A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd mewn sachliain, ac a aeth i dŷ yr ARGLWYDD. º

2Ac a anfonodd Eliacim y penteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos. º

3A hwy a ddywedasant wrtho. Fel hyn y dywedodd Heseceia, Diwrnod cyfyngder, a cherydd, a chabledd, yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor. º

4Fe allai y gwrendy yr ARGLWYDD dy DDUW eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr ARGLWYDD dy DDUW: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael. º

5Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia. º

6A dywedodd Eseia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi. º

7Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe n glyw sŵn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun. º

8Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna: canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis. º

9Ac efe a glywodd son am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Efe a aeth allan i ryfela â thi. A phan glywodd hynny, efe a anfonodd genhadau at Heseceia, gan ddywedyd, º

10Fel hyn y dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerw¬salem yn llaw brenin Asyria. º

11Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wiedydd, gan eu difrodi hwynt; ac a waredir di? º

12A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden, y rhai oedd o fewn Telassar? º

13Mae brenin Hamath, a brenin Arffad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa? º

14A chymerth Heseceia y llythyr o law y cenhadau, ac a’i darllenodd; a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD, ac a’i lledodd gerbron yr ARGLWYDD. º

15A Heseceia a weddïodd at yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, º

16ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, ti ydwyt DDUW, ie, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear: ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear. º

17Gogwydda, ARGLWYDD, dy glust, a gwrando; agor dy lygaid, ARGLWYDD, ac edrych: gwrando hefyd holl eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw. º

18Gwir yw, O ARGLWYDD, i frenhinoedd Asyria ddifa yr holl genhedloedd a’u gwledydd, º

19A rhoddi eu duwiau hwy yn tân; canys nid oeddynt hwy dduwiau, ond gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt. º

20Yr awr hon gan hynny, O ARGLWYDD ein Duw, achub ni o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr ARGLWYDD, tydi yn unig. º

21Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Sena¬cherib brenin Asyria: º

22Dyma y gair a lefarodd yr AR¬GLWYDD yn ei erbyn ef; Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd, ac a’th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl. º

23Pwy a ddifenwaist ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist dy lef, ac y cyfodaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel. º

24Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a’i ddewis ffynidwydd; af hefyd i’w gŵr uchaf, ac i goed ei ddoldir. º

25Myfi a gloddiais, ac a yfais ddwfr; a gwadnau fy nhraed hefyd y sychais holl afonydd y gwarchaeëdig. º

26Oni chlywaist wneuthur ohonof hyn er ys talm, a’i lunio er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddistrywio dinasoedd caerog yn gameddau dinistriol. º

27Am hynny eu trigolion yn gwloglaw a ddychrynwyd ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, a glaswellt ar bennau tai, neii ŷd wedi deifio cyn aeddfedu. º

28Dy eisteddiad hefyd; a’th fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, a adnabuiffi xxx a’th gynddeiriowgrwydd i’m herbyn. º

29Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau; am hynny y rhoddaf fy mach yn dy ffroen di, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost. º

30A hyn fydd yn arwydd i ti, Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun; ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. º

31A’r gweddill o dŷ Jwda, yr hwn a adcwir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny. º

32Canys gweddill a â allan o Jerwsfllem, a’r rhai dihangol o fynydd Seion: sel ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn. º

33Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia efe saeth yno; hefyd ni ddaw o’i blaen a tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn. º

34Ar hyd yr un ffordd ag y daeth y dychwel, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD. º

35Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas. º

36Yna yr aeth angel yr ARGLWYDD, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, weie hwynt oll yn gelaneddau meirwon. º

37Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe. º

38A bu, fel yr ydoedd efe yn addoli yn ahv Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion, ei daro ef â’r cleddyf; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia. Ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

← Llyfr Eseia 36Read In The App, Free →Llyfr Eseia 38 →

Study Llyfr Eseia 37

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566