The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 23

1BAICH Tyrus. Llongau Tarsis, udwch: canys anrheithiwyd hi, fel’nad oes na thy, na chyntedd: o dir Chittim y dat¬guddiwyd iddynt. º

2Distewch, drigolion yr ynys, yr hon y mae marchnadyddion Sidon, y rhai sydd yn tramwy y môr, yn dy lenwi. º

3Ac wrth ddyfroedd lawer, had Sihor, cynhaeaf yr afon yw ei chnwd hi: felly iftarchnadfa cenhedloedd yw hi. º

4Cywilyddia, Sidon; canys y môr, ie, cryfder y môr, a lefarodd, gan ddywedyd, Nid ymddygais, ac nid esgorais, ni fegais wŷr ieuainc chwaith, ac ni feithrinais forynion. º

5Megis wrth glywed son am yr Eifftiaid, yr ymofidiant wrth glywed son am Tyrus. º

6Ewch trosodd i Tarsis; udwch, breswylyr yr ynys. ‘ º

7Ai hon yw eich dinas lawen chwi, yr hon y mae ei hynafiaeth er y dyddiau gynt? ei thraed a’i dygant hi i ymdaith i bell. º

8Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus goronog, yr hon yr ydoedd ei marchnatawyr yn dywysogion, a’r marsiandwyr yn bendefigion y ddaear? º

9ARGLWYDD y lluoedd a fwriadodd ‘hyn, i ddifwyno balchder pob gogoniant, ac i ddirmygu holl bendefigion y ddaear. º

10Dos trwy dy wlad fel afon, O ferch Tarsis: nid oes nerth mwyach. º

11Estynnodd ei law ar y môr, dychrynodd y teyrnasoedd; gorchmynnodd yr ARGLWYDD am ddinas y farsiandiaeth, ddinistrio ei chadernid. º

12Ac efe a ddywedodd, Ni chei orfoleddu mwyach, yr orthrymedig forwyn, merch Sidon; cyfod, dos i Chittim; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch. º

13Wele dir y Caldeaid; nid oedd y bobl hyn, nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch: dyrchafasant ei thyrau, cyfodasant ei phalasau; ac efe a’i tynnodd hi i lawr. º

14Llongau Tarsis, udwch; canys anrheithiwyd eich nerth. º

15A’r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrigain, megis dyddiau un brenin: ymhen y deng mlynedd a thrigain y can Tyrus megis putain. º

16Cymer y delyn, amgylchyna y ddinas, ti butain anghofiedig: can gerdd yn dda: can lawer fel y’th gofier. º

17Ac ymhen y deng mlynedd a thrigain yr ARGLWYDD a ymwêl â Thyrus, a hi a ddychwel at ei helw, ac a buteinia a holl deyrnasoedd y byd ar wyneb y ddaear. º

18Yna y bydd ei marchnad a’i helw yn sancteiddrwydd i’r ARGLWYDD: ni thrysorir ac nis cedwir: canys eiddo y rhai a drigant o flaen yr ARGLWYDD fydd ei marsiandiaeth, i fwyta yn ddigonol, ac yn ddillad parhaus. ‘

← Llyfr Eseia 22Read In The App, Free →Llyfr Eseia 24 →

Study Llyfr Eseia 23

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566