The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 56

1FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, Cedwch farn, a gwnewch gyfiawnder: canys fy iachawdwriaeth sydd ar ddyfod, a’m cyfiawnder ar ymddangos. º

2Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mab y dyn a ymaflo ynddo; gan gadw y Saboth heb ei halogi, a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg. º

3Ac na lefared y dieithrfab, yr hwn a lynodd wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan ddidoli a’m didolodd oddi wrth ei bobl; ac na ddyweded y disbaddedig, Wele fi yn bren crin. º

4Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD with y rhai disbaddedig, y rhai a gadwant fy Sabothau, ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf, ac a ymaflant yn fy nghyf-amod i; º

5Ie, rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd. Ie ac enw gwell na meibion ac na merched: rhoddaf iddynt enw tragwyddol, yr hwn ni thorrir ymaith. º

6A’r meibion dieithr, y rhai a lynant wrth yr ARGLWYDD, gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw yr ARGLWYDD, i fod yn weision iddo ef, pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fy nghyfamod; º

7Dygaf hwythau hefyd i fynydd fy sancteiddrwydd, a llawenychaf hwynt yn nhŷ fy ngweddi: eu poethoffrymau hefyd a’u hebyrth fyddant gymeradwy ar fy allor: canys fy nhŷ i a elwir yn dy gweddi i’r holl bobloedd. º

8Medd yr Arglwydd DDUW, yr hwn a gasgl wasgaredigion Israel, Eto mi a gasglaf eraill ato ef, gyda’r rhai sydd wedi eu casglu ato. º

9Pob bwystfil y maes, deuwch i ddifa, a phob bwystfil yn y coed. i

10Deillion yw ei wyliedyddion: ni wyddant hwy oll ddim, cwn mudion iydynt hwy oll, heb fedru cyfarth; yn cysgu, yn gorwedd, ac yn caru hcpian. º

11Ie, cwn gwancus ydynt, ni chydna-’byddant a’u digon, a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddcall; wynebant oll ar eu ffordd eu hun, pob un at ei clw ei hun o’i gŵr. º

12Deuwch, meddant, cyrchaf win, ac ymlanwn o ddiod gref; a bydd yfory megis heddiw, a mwy o lawer iawn.

← Llyfr Eseia 55Read In The App, Free →Llyfr Eseia 57 →

Study Llyfr Eseia 56

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566