Llyfr Eseia 19
1BAICH yr Aifft. Wele yr ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl ysgafh, ac efe a ddaw i’r Aifft: ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef, a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol. º
2Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid, a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd, a phob un yn erbyn ei gymydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas. º
3Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chpnol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac a swynyddion; ac a dewiniaid, ac a brudwyr. º
4A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd caled; a bren nc cadarn a lywodraetha arnynt, medd’yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd. º
5A’r dyfroedd a ddarfyddant o’r môr, yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech. º
6A hwy a droant yr afonydd ym mhell, y ffrydiau amddiffyn a ddihysbyddir, ac a sychant: torrir ymaith bob corsen a hesgen. º
7Y papurfrwyn wrth yr afon, ar fin yr afon, a phob peth a heuwyd wrth yr afon, a wywa, a chweiir, ac ni bydd mwy. º
8Y pysgodwyr hefyd a dristânt, a’r rhai oll a fwriant fachau i’r afonydd a alarant: felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyaeb y dyfroedd a lesgant. º
9Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin, a’r rhai a weant rwydwaith. º
10A hwy a dorrir yn eu bwriadau, y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau. º
11Diau ynfydion yw tywysogion Soan; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharo, Mab y doethion ydwyf fi, mab hen frenhinoedd? º
12Mae hwynt? mae dy ddoethion? a mynegant i ti yr awr hon, a gwybyddant pa gyngor a gymerodd ARGLWYDD y lluoedd yn erbyn yr Aifft. º
13Tywysogion Soan a ynfydasant; twyllwyd tywysogion Noff, a phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft. º
14Cymysgodd yr ARGLWYDD ynddi ysbryd gwrchnysigrwydd; a hwy a wnaethant i’r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfciliorna meddwyn yn ei chwydfa. º
15Ac ni bydd gwaith i’r Aifft, yr hwn a wnelo y pen na’r gloren, y gangen na’r frwynen. º
16Y dydd hwnnw y bydd yr Aifft fel gwragedd; canys lii a ddychryna, ac,a ofna rhag ysgydwad llaw ARGLWYDD y lluoedd, yr hon a ysgydwa efe arni hi. º
17A bydd tir Jwda yn arswyd i’r Aifft; pwy bynnag a’i cofia hi, a ofna ynddo ei hun, oherwydd cyngor ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi. º 1 Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i ARGLWYDD y lluoedd: Dinas distryw y gelwir un. º
19Y dydd hwnnw y bydd allor i’r ARGLWYDD yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i’r ARGLWYDD gerllaw ei therfyn hi. º
20Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i ARGLWYDD y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr ARGLWYDD eherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn ipdynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a’u gwared hwynt. º
21A’r ARGLWYDD a adwaenir gan yr Aifft, ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr AR¬GLWYDD yn y dydd hwnnw: gwnant hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i’r ARGLWYDD, ac a’i talant. º
22Yr ARGLWYDD hefyd a dery yr Aifft; efe a’i tery, ac a’i hiacha; hwythau a droant at yr ARGLWYDD, ac efe a’u gwrendy hwynt, ac a’u hiachS hwynt. º
23A’r dydd hwnnw y bydd priffordd o’r Aifft i Asyria, ac yr a yr Asyriad i’r Aifft, a’r Eifftiad i Asyria: a’r Eifftiaid f fda’r Asyriaid a wasanaethant. º
24Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda’r Aifft, a chydag Asyria, sef yn fendith o fewn y tir: º
25Yr hwn a fendithia ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i, ac Asyria gwaith fy nwylo, ac Israel fy etifeddiaeth.