Llyfr Eseia 48
1dyngant i enw yr ARGLWYDD, ac a soffant am DDUW Israel, nid mewn gwir?" lonedd, nac mewn cyfiawnder. º
2Canys hwy a’u galwant eu hunain o’r ddinas sanctaidd, ac a bwysant ar DDUW Israel; enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd. º
3Y pethau gynt a fynegais er y pryd liwnnw, a daethant o’m genau, a mi a’u, naethais; mi a’u gwneuthum yn ddisy¬mwth, daethant i ben. º
4Oherwydd i mi wybod dy fod di yn ‘.iled, a’th war fel giewyn haearn, a’th ikiloen yn bres; º
5Mi a’i mynegais i ti er y pryd hwnnw; ulroddais i ti cyn ei ddyfod; rhag dywedyd ohonot, Fy nelw a’u gwn.ieth, fy ugherfddelw a’m tawdd-ddelw a’u gorchmynnodd, º
6Ti a glywaist, gwêl hyn oll; ac oni fynegwch chwithau ef? adroddais i ti bethau newyddion o’r pryd hwn, a phethau cuddiedig, y rhai ni wyddit oddi wrthynt. º
7Yn awr y crewyd hwynt, ac nid er y dechreuad, cyn y dydd ni chlywaist son amdanynt: rhag dywedyd ohonot, Wele, gwyddwn hwynt. º
8Ie, nis dywsit, ac nis gwyddit chwaith, nid agorasid dy glust y pryd hwnnw: canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon, a’th alw o’r groth yn droseddwr. º
9Er mwyn fy enw yr oedaf fy llid, ac er fy mawl yr ymataliaf oddi wrthyt, rhag dy ddifetha. º
10Wele, myfi a’th burais, ond nid fel arian; dewisais di mewn pair cystudd. º
11Er fy mwyn fy hun, er fy mwyn fy hun, y gwnaf hyn, canys pa fodd yr halogid fy enw? ac ni roddaf fy ngogoniant i arall. º
12Gwrando arnaf fi, Jacob, ac Israel, yr hwn a elwais: myfi yw; myfi yw y cyntaf, a mi yw y diwethaf. º
13Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaeari a’m deheulaw i a rychwantodd y nefoedd: pan alwyf fi arnynt, hwy a gydsafant. º
14Ymgesglwch oll, a gwrandewch; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn? Yr ARGLWYDD a’i hoffodd; efe a wna ei ewyllys ar Babilon, a’i fraich a fydd ar y Caldeaid. º
15Myfi, myn a leferais, ac a’i gelwais ef: dygais ef, ac efe a lwydda ei ffordd ef. º
16Nesewch ataf, gwrandewch hyn; ni leferais o’r cyntaf yn ddirgel; er y pryd y mae hynny yr ydwyf finnau yno: ac yn awr yr ARGLWYDD DDUW a’i Ysbryd a’m hanfonodd. º
17Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Waredydd, Sancc Israel; Myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio. º
18O na wrandawsit ar fy ngorchmynion! yna y buasai dy heddwch fel afon, a’th gyfiawnder fel tonnau y môr: º
19A buasai dy had fel y tywod, ac epil dy gorff fel ei racan ef: ni thorasid, ac ni ddinistriasid ei enw oddi ger fy airon, º
20Ewch allan o Babilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid, a llef gorfoledd mynegwch ac adroddwch hyn, traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear; dywedwch, Gwaredodd yr ARGLWYDD ei was Jacob. º
21Ac ni sychedasant pan arweiniodd hwynt yn yr anialwch: gwnaeth i ddwfr bistyllio iddynt o’r graig: holltodd y graig hefyd, a’r dwfr a ddylifodd. º
22Nid oes heddwch, medd yr ARGLWYDD, i’r rhai annuwiol.