The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 7

1A bu yn nyddiau Ahas mab Jotham, mab Usseia brenin Jwda, ddyfid o Resin brenin Syria, a Pheca mab Rema¬leia, brenin Israel; i fyny tua Jerwsalem, i ryfela arni: ond ni allodd ei gorchfygu.

2A mynegwyd i dŷ Dafydd, gan ddy¬wedyd, Syria a gydsyniodd ag Effraim. A’i galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt.

3Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahas, ti a Sear-jasub dy fab, wrth ymyl pistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr:

4A dywed wrtho, Ymgadw, a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn, rhag angerdd llid Resin, a Syria, a mab Remaleia:

5Canys Syria, ac Effraim, a mab Remaleia, a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn, gan ddywedyd,

6Esgynnwn yn erbyn Jwda, a blinwn hi, torrwn hi hefyd atom, a gosodwn frenin yn ei chanol hi; sef mab Tabeal.

7Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Ni saif, ac ni bydd hyn.

8Canys pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl.

9Hefyd pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni chredwch, diau ni sicrheir chwi.

10A’r ARGLWYDD a chwanegodd lefaru wrth Ahas gan ddywedyd,

11Gofyn i ti arwydd gan yr ARGLWYDD dy DDUW; gofyn o’r dyfnder, neu o’r uchelder oddi arnodd.

12Ond Ahas a ddywedodd, Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr ARGLWYDD.

13A dywedodd yntau, Gwrandewch yr awr hon, tŷ Dafydd; Ai bychan gennych flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw?

14Am hynny yr ARGLWYDD ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel.

15Ymenyn a mêl a fwyty efe; fel y medro ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da.

16Canys cyn medru o’r bachgen ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da, y gwrthodir y wlad a meiddiaist, gan ei dau frenin.

17Yr ARGLWYDD a ddwg arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dadau, ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Effraim oddi wrth Jwda, sef brenin Asyria.

18A bydd yn y dydd hwnnw, i’r AR¬GLWYDD chwibanu am y gwybedyn sydd yn eithaf afonydd yr Aifft, ac am y wenynen sydd yn nhir Asyria:

19A hwy a ddeuant ac a orffwysant oll yn y dyffrynnoedd anghyfanheddol, ac yng nghromlechydd y creigiau, ac yn yr ysbyddaid oll, ac yn y perthi oll.

20Yn y dydd hwnnw yr eillia yr Arglwydd â’r ellyn a gyflogir, sef â’r rhai o’r tu hwnt i’r afon, sef â brenin Asyria, y pen, a blew y traed; a’r farf hefyd a ddifa efe.

21A bydd yn y dydd hwnnw, i ŵr fagu anner-fuwch, a dwy ddafad:

22Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant, iddo fwyta ymenyn: canys ymenyn a mêl a fwyty pawb a adewir o fewn y tir.

23A bydd y dydd hwnnw, fod pob lle yr hwn y bu ynddo fil o winwydd er mil o arian bathol, yn fieri ac yn ddrain y bydd.

24â saethau ac â bwâu y daw yno: canys yn fieri ac yn ddrain y bydd yr holl wlad.

25Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibir â cheibiau, ni ddaw yno ofn mieri na drain: ond bydd yn hebryngfa gwartheg, ac yn sathrfa defaid.

← Llyfr Eseia 6Read In The App, Free →Llyfr Eseia 8 →

Study Llyfr Eseia 7

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566