The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 13

1BAICH Babilon, yr hwn a welodd Eseia mab Amos.

2Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel, dyrchefwch lef atynt, ysgydwch law, fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion. º

3Myfi a orchmynnais I’m rhai sanctaidd, gelwais hefyd fy nghedyrn i’m dicter, y rhai a ymhyfrydant yn fy nyrchafiad. º

4Llef tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull: ARGLWYDD y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel. º

5Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd; sef yr ARGLWYDD, ac arfau ei lidiowgrwydd, i ddifa yr holl dir. º

6Udwch; canys agos yw diwrnod yr ARGLWYDD; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw. º

7Am hynny yr holl ddwylo a laesa; a chalon pob dyn a dawdd: º

8A hwy a ofnant; gwewyr a doluriau a’u deil hwynt; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda, eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd. º

9Wele ddydd yr ARGLWYDD yn dyfod, yn greulon a digofaint a dicter llidiog, i osod y wlad yn ddiffeithwch; a’i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni. º

10Canys sêr y nefoedd, a’u planedau, ni roddant eu llewyrch: yr haul a dywyllir yn ei godiad, a’r lloer ni oleua a’i llewyrch. º

11A mi a ymwelaf a’r byd am ei ddrygioni, ac a’r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnafi falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy. º

12Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth; ie, dyn na chyn o aur Offir. º

13Am hynny yr ysgydwaf y nefoedd, a’r ddaear a gryn o’i lle, yn nigofaint AR¬GLWYDD y lluoedd, ac yn nydd llid ei ddicter ef. º

14A hi a fydd megis ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a’i coleddo; pawb a wynebant at eu pobl eu hun, a phawb i’w gwlad eu hun a ffoant. º

15Pob un a gefhr ynddi a drywenir; a phawb a chwaneger ati a syrth trwy y cleddyf. º

16Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a ysbeilir, a’u gwragedd a dreisir. º

17Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy, y rhai ni roddant fri ar arian; a’r aur nid ymhyfrydant ynddo. º

18Eu bwâu hefyd a ddryllia y gwŷr ieuainc, ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant: cu llygad nid eiriach y rhai bach. º

19A Babilon, prydferthwch y teyrnasoedd, gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid, fydd megis dinistr Duw at Sodom a Gomorra. º

20Ni chyfanheddir hi yn dragywydd, ac ni phreswyhr hi o genhedlaeth i genhedlaeth; ac ni phabella yr Arabiad yno, a’r bugeiliaid ni chorlannant yno. º

21Ond anifeiliaid gwylltion yr anialwch a orweddant yno; a’u tai hwynt a lenwir o ormesiaid, a chywion yr estrys a drigant yno, a’r ellyllon a lamant yno: º

22A’r cathod a gydatebant yn ei gweddwdai hi, a’r dreigiau yn y. palasoedd hyfryd: a’i hamser sydd yn agos i ddyfod, a’i dyddiau nid oedir.

← Llyfr Eseia 12Read In The App, Free →Llyfr Eseia 14 →

Study Llyfr Eseia 13

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566