Llyfr Eseia 22
1AICH glyn gweledigaeth. Beth a ddarfu i ti yn awr, pan ddringaist ti, oll i nennau y tai? º
2Ti yr hon wyt yn llawn terfysg, yn ddinas derfysgol, yn ddinas lawen: dy laddedigion ni laddwyd a chleddyf, na’th feirw mewn rhyfel. º
3Dy holl dywysogion a gydffoesant, gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt: y rhai oll a gafwyd ynot a gydrwymwyd, y rhai a ffoesant o bell. º
4Am hynny y dywedais, Edrychwchf oddi wrthyf; mi a wylaf yn chwerw, na lafuriwch fy nghysuro, am ddinistr merch fy mhobl. º
5Oherwydd diwrnod blinder yw, a mathru, a drysni, gan Arglwydd DDUW y lluoedd, yng ngiyn gweledigaeth, yn difurio y gaer, ac yn gweiddi i’r mynydd. º
6Elam hefyd a ddug y cawell saethau, mewn cerbydau dynion a gwŷr meirch y Cir hefyd a ddinoethodd y darian. º
7A bydd dy ddyffrynnoedd dewisol’yn llawn o gerbydau, a’r gwŷr meirch a ymfyddinant tua’r porth. º
8Ac efe a ddinoethodd do Jwda, ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth ty’r goedwig. º
9A gwelsoch rwygiadau dinas Dafydd, rtai arni oeddynt; a chasglasoch ddyfr¬oedd y pysgodlyn isaf. º
10Rhifasoch hefyd dai Jerwsalem, a thynasoch y tai i lawr i gadarnhau’r mur. º
11A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn: ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr, nid ystyriasoch yr hwn a’i lluniodd ef er ys talm. º
12A’r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd DDUW y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu a’sachliain: º
13Ac wele lawenydd a gorfoledd, gan ladd gwartheg, a lladd defaid, gan fwyta dg, ac yfed gwin: bwytawn ac yfwn; canys yfory, meddant, y byddwn feirw. º
14A datguddiwyd hyn lle y clywais gan ARGLWYDD y lluoedd, Yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn, hyd oni byddoch feirw, medd Arglwydd DDUW y lluoedd. º
15Fel hyn y dywed Arglwydd DDUW y lluoedd, Cerdda, dos at y trysorydd hwn, sef at Sebna, yr hwn sydd benteulu, a dywed, º
16Beth sydd i ti yma? a phwy sydd gennyt ti yma, pan drychaist i ti yma fedd, fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel, ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig? º
17Wele yr ARGLWYDD yn dy fudo di a chaethiwed tost, a chan wisgo a’th wisg di. º
18Gan dreiglo y’th dreighi di, fel trciglo pel i wlad eang; yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr. º
19Yna y’th yrraf o’th sefyllfa, ac o’th sefyilfa y dinistria etc di. º 1 Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim m;ih Hiloeia: º
21A’th wisg di hefyd y gwisgaf ef, ac a’th wregys di y nerthaf ef; a than ei law ef y rhoddaf dy lywodniclh di: ac efe a fydd yn dad i breswylwyr Jerwsalem, ac i dŷ Jwda. º
22Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Dafydd ‘ar ei ysgwydd ef: yna yr egyr efe, ac ni bydd a gaeo; ac efe a gae, ac ni bydd a agoro. º
23A mi a’i sicrhaf ef fel hoel mewn man sicr; ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad. º
24Ac arno efy crogant holl ogoniant tŷ -ei dad, hi! ac epil, yr holl fan lestri, o’r llestri meiliau, hyd yr holl offer cerdd. º
25Yn y dydd hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y symudir yr hoel a hoeliwyd yn y man sicr, a hi a dorrir, ac a syrth: torrir hefyd y llwyth oedd ami; canys yr ARGLWYDD a’i dywedodd.