Llyfr Eseia 42
1WELE fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal; fy etholedig, i’r hwn y mae fy enaid yn fodlon: rhoddais fy ysbryd arno; efe a ddwg allaa farn i’r cenhedloedd. º
2Ni waedda, ac ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol. º
3Ni ddryllia gorsen ysig, ac ni ddiffydd lin yn mygu;.efe a.ddwg allan,farn at wirionedd., „.:; º
4Ni phalla efe, ac n-i ddigalonna, hyd eni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef. º
5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, creawdydd y nefoedd a’i hestyn-" nydd; lledydd y ddaear a’i chnwd; rhoddydd anadl i’r bobl arni, ac ysbryd i’r rhai a rodiant ynddi: º
6Myfi yr ARGLWYDD a’th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobL,i ac yn oleuni Cenhedloedd; º
7I agoryd llygaid y deillion, i ddwya allan y carcharor o’r carchar, a’r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o’r carchardy.i º
8Myfi yw yr ARGLWYDD; dyma fy; enw: a’m gogoniant ni roddaf i arall, na’m mawl i ddelwau cerfiedig. º
9Wele, y pethau o’r blaen a ddaethant i ben, a mynegi yr ydwyf fi bethau newydd, traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan. º
10Cenwch i’r ARGLWYDD gan newyddn a’i fawl ef o eithaf y ddaear; y rhai a ddisgynnwch i’r môr, ac sydd ynddo; yr ynysoedd a’u trigolion. º
11Y dineithwch a’i ddinasoedd, dyrchafant eu llef, y maestrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd. º
12Rhoddant ogoniant i’r ARGLWYBD, a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd.. º
13Yr ARGLWYDD a â allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedday ie, efe a rua; ac a fydd drech na’i elynion.. º
14Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith. º
15Mi a wnaf y mynyddoedd a’r bryniau yn ddiffeithwch, a’u holl wellt a wywaf; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd, a’r llynnoedd a sychaf. º
16Arweiniaf y deilliaid ar hyd fford4-nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o’u blaen hwynt, a’r pethau ceimion yn union. Dyma y peth¬au a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt. º
17Troiryn’eu hôl,allwyrwaradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau. cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni. º
18O fyddariaid, gwrandewch; a’r deill¬ion, edrychwch i weled. º
19Pwy sydd ddall ond fy ngwas i? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais? pwy môr ddall a’r perffaith, a dall fel gwas yr ARGLWYDD? º
20Er gweled llawer, eto nid ystyri; er agoryd clustiau, eto ni wrendy. º
21Yr ARGLWYDD sydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder; efe a fawrha y gyfraith, ac a’i gwna yn anrhydeddus. º
22Eto dyma bobl a ysbeiliwyd, ac a anrheithiwyd: hwy a faglwyd oll mewn tyilau, mewn carchardai hefyd y cuddiwyd hwynt: y maent yn ysbail, ac heb waredydd; yn anriiaith, ac heb a ddywedai, Dyro yn ei ôl. º
23Pwy ohonoch a wrendy hyn? pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw? º
24Pwy a roddes Jacob yn anrhaith, ac Israel i’r ysbeilwyr? onid yr ARGLWYDD, yr hwn y pechasom i’w erbyn? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd, ac nid ufuddhaent i’w gyfraith. º
25Am hynny y tywalltodd efe ame lidiowgrwydd ei ddicter a chryfder rhyfel: efe a’i henynnodd oddi amgylch, ond ni wybu efe; llosgodd ef hefyd, ond nid ystyriodd.