The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 27

1YDYDD hwnnw yr ymwêl yr AR¬GLWYDD â’i gleddyf caled, mawr, a chadarn, a lefiathan y sarff hirbralf, ie, & lefiathan y sarff dorchog: ac efe a ladd y ddraig sydd yn y m&r. º

2Yn y dydd hwnnw cenwch iddi, Gwinllan y gwin coch. º

3Myfi yr ARGLWYDD a’i ceidw; ar bob moment y dyfrhaf hi: cadwaf hi nos a dydd, rhag i neb ei drygu. º

4Nid oes lidiowgrwydd ynof: pwy a osodai fieri a drain yn fy erbyn mewn rhyfel? myfi a awn trwyddynt, mi a’u llosgwn hwynt ynghyd., º

5Neu ymafled yn fy. nerth i, fel y gwnelo heddwch â mi, ac efe a Wfla ileddwch â mi. º

6Efe awnai hiliogaeth Jacob wreiddio; Israel a flodeua, ac a flaendardda; a hwy a lanwant wyneb y byd a chnwd. º

7A drawodd efe ef fel y trawodd y rhai a’i trawsai ef? a laddwyd ef fel lladdfa ei laddedigion ef? º

8Wrth fesur, pan el allan, yr ymddadlau ag ef: y mae yn atal ei wynt garw ar ddydd dwyreinwynt. º

9Am hynny trwy hyn y glanheir an¬wiredd Jacob; a dyna’r holl ffrwyth, tynnu ymaith ei bechod: pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig, ni saif y llwyni na’r delwau. º

10Eto y ddinas gadarn fydd unig, a’r annedd wedi ei adael, a’i wrthod megis yn anialwch: yno y pawr y llo, ac y gorwedd ac y difa ei blagur hi. º

11Pan wywo ei brig hi, hwy a dorrir: gwragedd a ddaw, ac a’i llosgant hi,, canys nid pobl ddeallgar ydynt: am hynny yr hwn a’u gwnaeth ni thosturia wrthynt, a’r hwn a’u lluniodd ni thrugarha wrthynt. º

12A’r dydd hwnnw y bydd i’r AR¬GLWYDD ddyrnu, o rfrwd yr afon hyd afon yr Aifft: a chwi feibion Israel a gesglir bob yn un ac un. º

13Ac yn y dydd hwnnw yr utgenir ag utgorn mawr; yna y daw y rhai ar ddarfod amdanynt yn nhir Asyria, a’r rhai a wasgarwyd yn nhir yr Ailft, ac a addolant yr ARGLWYDD yn y mynydd sanctaidd yfl Jerwsalena.

← Llyfr Eseia 26Read In The App, Free →Llyfr Eseia 28 →

Study Llyfr Eseia 27

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566