The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 53

1PWY a gredodd i’n hymadrodd.? ac i bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD? º

2Canys efe a dyf o’i flaen ef fel blag-aryn, ac fel gwreiddyn o dir sych: nid oes na phryd na thegwch iddo: pan edrychom arno, ni bydd pryd fel y dymunem ef. º

3Dirmygedig yw, a diystyraf o’r gwyr; gŵr gofidus, a chynefin a dolur: ac yr oeddem megis yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho: dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif ohono. º

4Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan DDUW, a’i gystuddio. º

5Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef: a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni. º

6Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troesom bawb i’w ffordd ei hun: a’r ARGLWYDD a roddes arno efein hanwiredd ni i gyd. º

7Efe a orthrymwyd, ac efe a gystuddiwyd, ac nid agorai ei enau: fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau. º

8O garchar ac o farn y cymerwyd ef; a phwy a draetha ei oes ef? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw; rhoddwyd rda arno ef am gamwedd fy mhobl. º

9Ac efe a wnaeth ei fedd gyda’r rhai anwir, a chyda’r cyfoethog yn ei farwol aeth; am na wnaethai gam, ac nad oedd twyll yn ei enau. º

10Eithr yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio ef; efe a’i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn abcrth dros bechod, efe a wel ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr ARGLWYDD a lwydda yn ei law ef. º

11O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. º

12Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y tros¬eddwyr.

← Llyfr Eseia 52Read In The App, Free →Llyfr Eseia 54 →

Study Llyfr Eseia 53

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566