The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 16

1ANFONWCH oen i lywodraethwr y tir, o Sela i’r anialwch, i fynydd merch Seion. º

2Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o’r nyth; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon. º

3Ymgynghora, gwna farn, gwna dy gysgod fel nos yng nghanol hanner dydd; cuddia y rhai gwasgaredig, na ddatguddia y crwydrad. º

4Triged fy ngwasgaredigion gyda thi; Moab, bydd di loches iddynt rhag y dinistrydd; canys diweddwyd y gorthrymydd, yr anrheithiwr a beidiodd, y mathrwyr a ddarfuant o’r tir. º

5A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd, ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd, yn barnu ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder. º

6Clywsom am falchder Moab, (balch iawn yw,) am ei falchder, a’i draha, a’i ddicllonedd: ond nid felly y bydd ei gelwyddau. º

7Am hynny yr uda Moab am Moab, pob nn a uda: am sylfeini Cirhareseth y griddfenwch, yn ddiau hwy a drawyd. º

8Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant; ac am winwydden Sibma, arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei pher winwydd hi; hyd Jaser y cyraeddasant; crwydrasant ar hyd yr anialwch; ei changhennau a ymestynasant, ac a aethant dros y môr. º

9Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser, gwinwydden Sibma; dyfrhaf di, Hesbon, ac Eleale, a’m dagrau: canys ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf, y syrthiodd bloedd. º

10Y llawenydd hefyd a’r gorfoledd a ddarfu o’r dolydd: ni chenir ac ni floeddir yn y gwinliannoedd; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd; gwneuthuni i’w bloedd gynhaeaf beidic.’ º

11Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn, a’m perfedd am Cirharcs. º

12A phan weler blino o Moab ar iyr uchelfan, yna y daw efe i’w gysegr i weddïo; ond ni thycia iddo. º

13Dyma y gair a lefarodd yr ARGLwynD am Moab, er yr amser hwnnw. º

14Ond yn awr y llefarodd yr AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, O fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwas cyflog, y dirmygir gogoniant Aioab, a’r holl dyrfa fawr; a’r gweddill fydd ychydig bach a di-rym.

← Llyfr Eseia 15Read In The App, Free →Llyfr Eseia 17 →

Study Llyfr Eseia 16

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566