The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 25

1Oarglwydd, fy Nuw ydwyt; dyrchafaf di, moliannaf dy enw; canys gwnaethost ryfeddodau: dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd. º

2Canys gosodaist ddinas yn bentwr, a thref gadarn yn garnedd; palas dieithriaid, fel na byddo ddinas; nid adeiledir hi byth. º

3Am hynny pobl nerthol a’th ogonedda, dinas y cenhedloedd ofnadv y a’th arswyda: º

4Canys buost nerth i’r dawd, a chad¬ernid i’r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag tymestl, yn gysgod rhag gwres, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur. º

5Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres a chysgod cwmwl; darostyngir cangen yr ofnadwy. º

6Ac ARGLWYDD y lluoedd a wna i’r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win; o basgedigion breision, a gloyw-win puredig. º

7Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd. º

8Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd DDUW a sych ymaith ddagraa oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr ARGLWYDD a’i llefarodd. º

9A’r dydd hwnnw y dywedir, Wele, dyma ein Duw ni; gobeithiasom ynddo, ac efe a’n ceidw: dyma yr ARGLWYDD; gobeithiasom ynddo, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef. º

10Canys llaw yr ARGLWYDD a orffwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir tano, fel sathru gwellt mewn tomen. º

11Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol-hwy, fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nofio; ac efe a ostwng eu balchder hwynt ynghyd ag ysbail eu dwylo. º

12Felly y gogwydda, y gostwng, ac y bwrw efe i lawr hyd y llwch, gadernid uchelder dy gaerau.

← Llyfr Eseia 24Read In The App, Free →Llyfr Eseia 26 →

Study Llyfr Eseia 25

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566