The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 54

1CAN, di amhlantadwy nid esgorodd; bloeddia ganu, a gorfoledda, yr hon nid esgorodd: oherwydd amiach meibion yr hon a adawyd, na’r hon y mae gŵr iddi, medd yr ARGLWYDD. º

2Helaetha le dy babell, ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd: nac atal, estyn dy rafEau, a sicrha dy hoelion. º

3Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy; a’th had a etifedda y Cenhedloedd, a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol. º

4Nac ofna; canys ni’th gywilyddir: ac na’th waradwydder, am na’th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach. º

5Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth; ARGLWYDD-y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef. º

6Canys fel gwraig wrthodedig, a chysmddiedig o ysbryd, y’th alwodd yr ARGLWYDD, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy DDUW. º

7Dros ennyd fechan y’th adewais; ond a mawr drugareddau y’th gasglaf. º

8Mewn ychydig sonant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond a thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr ARGLWYDD dy Waredydd. º

9Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na’th geryddwn. º

10Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr ARGLWYDD sydd yn trugarhau wrthyt. º

11Y druan, helbulus gan dymesti, y ddigysur, wele, mi a osodaf dy gerrig di a charbund, ac a’th sylfaenaf a meini saffir. º

12Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a’th byrth o feini disglair, a’th holl derfynau o gerrig dymunol. º

13Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD; a mawr fydd heddwch dy feibion. º

14Mewn cyfiawnder y’th sicrheir: byddi bell oddi wrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddi wrth ddychryn, canys ni nesâ atat. º

15Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasg-lant, ond nid ohonof fi: pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i’th erbyn, efe a syrth. º

16Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf i’w waith; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio. º

17Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr AR¬GLWYDD, a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr ARGLWYDD.

← Llyfr Eseia 53Read In The App, Free →Llyfr Eseia 55 →

Study Llyfr Eseia 54

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566