Llyfr Eseia 39
1YN yr amser hwnnw Merodach-Baladan, mab Baladan, brenin Bab-ilon, a anfonodd lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai ei fod ef yn glaf, a’i fyned yn iach. º
2A Heseceia a lawenychodd o’u herwydd hwynt, ac a ddangosodd iddynt dy ei drysorau, yr arian, a’r aur, a’r llysieuau, a’r olew gwerthfawr, a holl dy ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dv ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt. º
3Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat? A dywedodd Heseceia, (? wlad bell y daethant ataf fi, sef o Babilon. º
4Yntau a ddywedodd. Both a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd llcscceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant: nid oes dim yn fy nhrysorau a’r nas dangosais iddynt. º
5Yna Eseia a ddywedodd wrth Hesec¬eia, Gwrando air ARGLWYDD y lluoedd. º
6Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddygir i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau di hyd y dydd hwn: ni adewir dim, Biedd yr AR¬GLWYDD. º
7Cymerant hefyd o th feibion di, y rhai a ddaw ohono!:, sef y rhaa a genhedii, fel y byddont ystafellyddion yn llys brenin Babilon. º
8Yna y dywedodd Heseceia wrth Eseia, Da yw gair yr ARGLWYDD, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Canys l ydd heddwch a gwirionedd yn fy flyddiau i.