The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 10

1I’r Pencerdd ar Muth-labben, Salm Dafydd. Clodforaf di, O ARGLWYDD, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.

2Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf.

3Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di.

4Canys gwnaethost fy mam a’m mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn.

5Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol.

6Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt.

7Ond yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn.

8Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb.

9Yr ARGLWYDD hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod.

10A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O ARGLWYDD, y rhai a’th geisient.

11Canmolwch yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef.

12Pan ymofynno efe am waed, efe, a’u cofia hwynt: nid anghofia waed y cystuddiol.

13Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau:

14Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.

15Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.

16Adwaenir yr ARGLWYDD wrth y farn a.wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela.

17Y rhai drygionus a ymchwelant i uffem, a’r holl genhedloedd a anghofiant DDUW.

18Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth.

19Cyfod, ARGLWYDD; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.

20Gosod, ARGLWYDD, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.

← Llyfr y Salmau 9Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 11 →

Study Llyfr y Salmau 10

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150