The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 141

1I'r Pencerdd, Salm Dafydd. Gwared fi, O ARGLWYDD, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws:

2Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel.

3Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela.

4Cadw fi, O ARGLWYDD, rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.

5Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela.

6Dywedais wrth yr ARGLWYDD, Fy NUW ydwyt ti: clyw, O ARGLWYDD, lef fy ngweddïau.

7ARGLWYDD DDUW, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.

8Na chaniatâ, ARGLWYDD, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela.

9Y pennaf o'r rhai a'm hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio.

10Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant.

11Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw.

12Gwn y dadlau yr ARGLWYDD ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.

13Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.

← Llyfr y Salmau 140Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 142 →

Study Llyfr y Salmau 141

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150