Llyfr y Salmau 122
1Caniad y graddau. Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth.
2Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd daear.
3Ni ad efe i’th droed lithro: ac ni huna dy geidwad.
4Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel.
5Yr ARGLWYDD yw dy geidwad: yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw.
6Ni’th dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos.
7Yr ARGLWYDD a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.
8Yr ARGLWYDD a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
Study Llyfr y Salmau 122
KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)
All Chapters
123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150