The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 99

1. Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth

2Hysbysodd yr ARGLWYDD ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd.

3Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein DUW ni.

4Cenwch yn llafar i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.

5Cenwch i’r ARGLWYDD gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm.

6Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr ARGLWYDD y Brenin.

7Rhued y môr a’i gyfiawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn.

8Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd.

9O flaen yr ARGLWYDD; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.

← Llyfr y Salmau 98Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 100 →

Study Llyfr y Salmau 99

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150