The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 53

1I’r Pencerdd, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a mynegi i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth Dafydd i dŷ Ahimelech. Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae trugaredd DUW yn parhau yn wastadol.

2Dy dafod a ddychymyg ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.

3Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyflawnder. Sela.

4Hoffaist bob geiriau distryw, O dafod twyllodrus.

5DUW a’th ddistrywia dithau yn dragywydd: efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dynn allan o’th babell, ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela.

6Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben.

7Wele y gŵr ni osododd DDUW yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni.

8Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ DDUW: ymddiriedaf yn nhrugaredd DUW byth ac yn dragywydd.

9Clodforaf di yn dragywydd, oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw gerbron dy saint.

← Llyfr y Salmau 52Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 54 →

Study Llyfr y Salmau 53

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150