The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 5

1I’r Pencerdd ar Neginoth, Psalm Dafydd. Gwrando fi pan alwyf, O DDUW fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarhâ wrthyf, ac erglyw fy ngweddi.

2O feibion dynion, pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Selah.

3Ond gwybyddwch i’r ARGLWYDD neillduo y duwiol iddo ei hun: yr ARGLWYDD a wrendy pan alwyf arno

4Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela.

5Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr ARGLWYDD.

6Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? ARGLWYDD, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.

7Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt.

8Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, ARGLWYDD, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.

← Llyfr y Salmau 4Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 6 →

Study Llyfr y Salmau 5

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150