The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 95

1Oarglwydd DDUW y dial, O DDUW y dial, ymddisgleiria.

2Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion.

3Pa hyd, ARGLWYDD, y caiff yr annuwiolion, pa hyd, y caiff yr annuwiol orfoleddu?

4Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?

5Dy bobl, ARGLWYDD, a ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant.

6Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r amddifad a ddieneidiant.

7Dywedant hefyd, Ni wêl yr ARGLWYDD; ac nid ystyria DUW Jacob hyn.

8Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?

9Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?

10Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?

11Gŵyr yr ARGLWYDD feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.

12Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O ARGLWYDD, ac a ddysgi yn dy gyfraith:

13I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol.

14Canys ni ad yr ARGLWYDD ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.

15Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.

16Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd?

17Oni buasai yr ARGLWYDD yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd.

18Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed dy drugaredd di, O ARGLWYDD, a’m cynhaliodd.

19Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.

20A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?

21Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.

22Eithr yr ARGLWYDD sydd yn amddiffynfa i mi; a’m DUW yw craig fy nodded.

23Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr ARGLWYDD ein DUW a’u tyr hwynt ymaith.

← Llyfr y Salmau 94Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 96 →

Study Llyfr y Salmau 95

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150