Llyfr y Salmau 9
1I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd. ARGLWYDD ein IOR ni, mor arddercog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd.
2O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd.
3Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordenaist;
4Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn i ti i ymweled ag ef?
5Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist i gogoniant ac â harddwch.
6Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef:
7Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd;
8Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.
9ARGLWYDD ein IOR, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!