The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 75

1Maschil Asaff. Paham, DDUW, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?

2Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo.

3Dyrcha dy draed at anrhaith dragywyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr.

4Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion.

5Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyell mewn drysgoed.

6Ond yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac morthwylion.

7Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw.

8Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau DUW yn y tir.

9Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd.

10Pa hyd, DDUW, y gwarthrudda y gwrthwynebwyr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd?

11Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes.

12Canys DUW yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir.

13Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.

14Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch.

15Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion.

16Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul.

17Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf.

18Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O ARGLWYDD, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw.

19Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth.

20Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster.

21Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw.

22Cyfod, O DDUW, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd.

23Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.

← Llyfr y Salmau 74Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 76 →

Study Llyfr y Salmau 75

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150