The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 31

1neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd. Mawrygaf di, O ARGLWYDD: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid.

2ARGLWYDD fy NUW, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist.

3ARGLWYDD, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll.

4Cenwch i’r ARGLWYDD, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.

5Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd.

6Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd.

7O’th daioni, ARGLWYDD; y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus.

8Arnat ti, ARGLWYDD, y llefais, ac â’r ARGLWYDD yr ymbiliais.

9Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd?

10Clyw, ARGLWYDD, a thrugarha wrthyf: ARGLWYDD, bydd gynorthwywr i mi.

11Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd;

12Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O ARGLWYDD fy NUW, yn dragwyddol y’th foliannaf.

← Llyfr y Salmau 30Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 32 →

Study Llyfr y Salmau 31

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150