The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 85

1I’r Pencerdd ar Gittith, Salm meibion Cora. Mor hawddgar yw dy bebyll di, O ARGLWYDD y lluoedd!

2Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr ARGLWYDD: fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y DUW byw.

3Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O ARGLWYDD y lluoedd, fy Mrenin, a’m DUW.

4Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y’th foliannant. Sela.

5Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot; a’th ffyrdd yn eu calon:

6Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon: a’r glaw a leinw y llynnau.

7Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un gerbron DUW yn Seion.

8Oarglwydd DDUW y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O DDUW Jacob. Sela.

9O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog.

10Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy NUW, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb.

11Canys haul a tharian yw yr ARGLWYDD DUW: yr ARGLWYDD a rydd ras a gogoniant - ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.

12Oarglwydd y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.

← Llyfr y Salmau 84Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 86 →

Study Llyfr y Salmau 85

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150