The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 91

1Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog.

2Dywedaf am yr ARGLWYDD, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy NUW; ynddo yr ymddiriedaf.

3Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon.

4A’i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti.

5Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd:

6Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistria a ddinistrio ganol dydd.

7Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw, ond ni ddaw yn agos atat ti.

8Yn unig ti a ganfyddi â’th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.

9Am i ti wneuthur yr ARGLWYDD fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;

10Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell.

11Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.

12Ar eu dwylo, y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg.

13Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri.

14Am iddo toddi ei serch arnaf, a hynny gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw.

15Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef.

16Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.

← Llyfr y Salmau 90Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 92 →

Study Llyfr y Salmau 91

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150