The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 112

1Molwch yr ARGLWYDD. Clodforaf yr ARGLWYDD â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa.

2Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant.

3Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.

4Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr ARGLWYDD.

5Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd.

6Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.

7Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr:

8Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywdd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder.

9Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef.

10Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.

← Llyfr y Salmau 111Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 113 →

Study Llyfr y Salmau 112

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150