The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 142

1

2Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl-darth, a dyrchafiad fy nwylo fel offrwm prynhawnol.

3Gosod, ARGLWYDD, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.

4Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad i mi fwyta o'u danteithion hwynt.

5Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt.

6Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau canys melys ydynt.

7Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear.

8Eithr arnat ti, O ARGLWYDD DDUW, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd.

9Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd.

10Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.

← Llyfr y Salmau 141Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 143 →

Study Llyfr y Salmau 142

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150