The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 43

1I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora. Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O DDUW.

2Sychedig yw fy enaid am DDUW, am y DUW byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron DUW?

3Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy DDUW?

4Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ DDUW, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl.

5Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn NUW: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd.

6Fy NUW, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar.

7Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi.

8Eto yr ARGLWYDD a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar DDUW fy einioes.

9Dywedaf wrth DDUW fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn?

10Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy DDUW?

11Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn NUW; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.

← Llyfr y Salmau 42Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 44 →

Study Llyfr y Salmau 43

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150