The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 147

1Molwch yr ARGLWYDD. Fy enaid, mola di yr ARGLWYDD.

2Molaf yr ARGLWYDD yn fy myw: canaf i’m DUW tra fyddwyf.

3Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.

4Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.

5Gwyn ei fyd yr hwn y mae DUW Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr ARGLWYDD ei DDUW:

6Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd:

7Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr ARGLWYDD sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd.

8Yr ARGLWYDD sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr ARGLWYDD sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr ARGLWYDD sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.

9Yr ARGLWYDD sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.

10Yr ARGLWYDD a deyrnasa byth, sef dy DDUW di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 146Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 148 →

Study Llyfr y Salmau 147

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150