The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 87

1Gweddi Dafydd. Gostwng, O ARGLWYDD, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf.

2Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy NUW, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.

3Trugarha wrthyf, ARGLWYDD: canys arnat y llefaf beunydd.

4Llawenha enaid dy was: canys atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid.

5Canys ti, O ARGLWYDD, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat.

6Clyw, ARGLWYDD, fy ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil.

7Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi.

8Nid oes fel tydi ymysg y duwiau, O ARGLWYDD; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di.

9Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw.

10Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt DDUW.

11Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD; mi a rodiaf yn dy, wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw.

12Moliannaf di, O Arglwydd fy NUW â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd.

13Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod.

14Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O DDUW, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron.

15Eithr ti, O Arglwydd, wyt DDUW trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.

16Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch.

17Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a’m diddanu.

← Llyfr y Salmau 86Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 88 →

Study Llyfr y Salmau 87

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150