The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 7

1I’r Pencerdd ar Neginoth ar Seminith, Salm Dafydd. ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid.

2Trugarha wrthyf, ARGLWYDD: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O ARGLWYDD, canys fy esgyrn a gystuddiwyd.

3A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, ARGLWYDD, pa hyd?

4Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.

5Canys yn angau nid oes goffa amdanat; yn y bedd pwy a’th folianna?

6Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau.

7Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion.

8Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd; canys yr ARGLWYDD a glywodd lef fy wylofain.

9Clybu yr ARGLWYDD fy neisyfiad: yr ARGLWYDD a dderbyn fy ngweddi.

10Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.

← Llyfr y Salmau 6Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 8 →

Study Llyfr y Salmau 7

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150