The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 59

1I’r Pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd. Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, O gynulleidfa? a fernwch uniondeb, O feibion dynion?

2Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear.

3O’r groth yr ymddieithriodd yr annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd.

4Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau;

5Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr.

6Drylla, O DDUW, eu dannedd yn eu geneuau: tor, O ARGLWYDD, gilddannedd y llewod ieuainc.

7Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri.

8Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul.

9Cyn i’ch crochanau glywed y mieri, efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint.

10Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol.

11Fel y dywedo dyn, Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod DUW a farna ar y ddaear.

← Llyfr y Salmau 58Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 60 →

Study Llyfr y Salmau 59

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150