The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 149

1Molwch yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.

2Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd.

3Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.

4Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.

5Molant enw yr ARGLWYDD oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.

6A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi.

7Molwch yr ARGLWYDD. o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau:

8Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:

9Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd:

10Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog:

11Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd:

12Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau:

13Molant enw yr ARGLWYDD: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd.

14Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 148Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 150 →

Study Llyfr y Salmau 149

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150