The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 96

1Deuwch, canwn i’r ARGLWYDD: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.

2Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â Salmau.

3Canys yr ARGLWYDD sydd DDUW mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.

4Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo.

5Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir.

6Deuwch, addolwn, ac yngrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD ein Gwneuthurwr.

7Canys efe yw ein DUW ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,

8Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch:

9Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.

10Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd:

11Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.

← Llyfr y Salmau 95Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 97 →

Study Llyfr y Salmau 96

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150