The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 108

1Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

2Felly dyweded gwaredigion yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd efe o law y gelyn;

3Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau.

4Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi:

5Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt.

6Yna y llefasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau;

7Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.

8O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!

9Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.

10Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:

11Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau DUW, a dirmygu cyngor y Goruchaf.

12Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.

13Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.

14Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau.

15O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!

16Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.

17Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.

18Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.

19Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.

20Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a’u gwaredodd o’u dinistr.

21O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!

22Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.

23Y rhai a ddisgynnant mewn llongau môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.

24Hwy a welant weithredoedd yr ARGLWYDD, a’i ryfeddodau yn y dyfnder.

25Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.

26Hwy a esgynnant i’r nefoedd, disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder.

27Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a’u holl ddoethineb a ballodd.

28Yna y gwaeddant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau.

29Efe a wna yr ystorm yn dawel; a’i thonnau a ostegant.

30Yna y llawenhânt am eu gostegu; efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent.

31O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, ai ryfedodau i feibion dynion!

32A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

33Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir.

34A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.

35Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr.

36Ac yno y gwna i’r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu:

37Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.

38Ac efe a’u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i’w hanifeiliaid leihau.

39Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.

40Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.

41Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.

42Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.

43Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, a ddeallant drugareddau yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 107Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 109 →

Study Llyfr y Salmau 108

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150