The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 136

1Molwch yr ARGLWYDD. Molwch enw yr ARGLWYDD; gweision yr ARGLWYDD, molwch ef.

2Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr ARGLWYDD yng nghynteddoedd tŷ ein DUW ni,

3Molwch yr ARGLWYDD; canys da yw yr ARGLWYDD: cenwch i’w enw; canys hyfryd yw.

4Oblegid yr ARGLWYDD a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel, yn briodoriaeth iddo.

5Canys mi a wn mai mawr yw yr ARGLWYDD; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.

6Yr ARGLWYDD a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.

7Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o’i drysorau.

8Yr hwn a drawodd gyntaf-anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.

9Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.

10Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;

11Seion brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:

12Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.

13Dy enw, O ARGLWYDD, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O ARGLWYDD, o genhedlaeth i genhedlaeth.

14Canys yr ARGLWYDD a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.

15Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn.

16Genau sydd iddynt, ond ni lefant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.

17Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.

18Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

19Tŷ Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD: bendithiwch yr ARGLWYDD, tŷ Aaron.

20Tŷ Lefi, bendithiwch yr AR GLWYDD: y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.

21Bendithier yr ARGLWYDD o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 135Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 137 →

Study Llyfr y Salmau 136

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150