The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 63

1I'r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Dafydd. Wrth DDUW yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth.

2Efe yn unig yw fy nghraig, a'm hiachawdwriaeth, a'm hamddiffyn; ni'm mawr ysgogir.

3Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd.

4Ymgyngorasant yn unig i'w fwrw ef i lawr o'i fawredd; hoffasant gelwydd: â'u geneuau y bendithiant, ond o'u mewn y melltithiant. Sela.

5O fy enaid, disgwyl wrth DDUW yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.

6Efe yn unig yw fy nghraig, a'm hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni'm hysgogir.

7Yn NUW y mae fy iachawdwriaeth a'm gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn NUW.

8Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: DUW sydd noddfa i ni. Sela.

9Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi.

10Nac ymddiriedwch mewn trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich calon arno.

11Unwaith y dywedodd DUW, clywais hynny ddwywaith; mai eiddo DUW yw cadernid.

12Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O ARGLWYDD: canys ti a deli i bob yn ôl ei weithred.

← Llyfr y Salmau 62Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 64 →

Study Llyfr y Salmau 63

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150