The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 77

1I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff. Hynod yw DUW yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel.

2Ei babell hefyd sydd yn Salem, a’i drigfa yn Seion.

3Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela.

4Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail.

5Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo.

6Gan dy gerydd di, O DDUW Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu.

7Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter?

8O’r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear,

9Pan gyfododd DUW i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela.

10Diau cynddaredd dyn a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi.

11Addunedwch, a thelwch i’r ARGLWYDD eich DUW: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy.

12Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.

← Llyfr y Salmau 76Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 78 →

Study Llyfr y Salmau 77

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150