The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 46

1I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Cora, Maschil, Cân cariadau. Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan.

2Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd DUW yn dragywydd.

3Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn, a’th ogoniant a’th harddwch.

4Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy.

5Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.

6Dy orsedd di, O DDUW, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.

7Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd DUW, sef dy DDUW di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion.

8Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant.

9Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.

10Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad.

11A’r Brenin a chwennych dy degwch; canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.

12Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb.

13Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi.

14Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant, ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti.

15Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin.

16Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.

17Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th folianniant byth ac yn dragywydd.

← Llyfr y Salmau 45Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 47 →

Study Llyfr y Salmau 46

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150