The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 21

1I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Wrandawed yr ARGLWYDD arnat yn nydd cyfyngder: enw DUW Jacob a’th ddiffynno.

2Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion.

3Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela.

4Rhodded i ti wrth fodd dy galon, chyfiawned dy holl gyngor.

5Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein DUW; cyfiawned yr ARGLWYDD dy holl dymuniadau.

6Yr awr hon y gwn y gwared yr ARGLWYDD ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef.

7Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr ARGLWYDD ein DUW.

8Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.

9Achub, ARGLWYDD: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.

← Llyfr y Salmau 20Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 22 →

Study Llyfr y Salmau 21

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150