The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 29

1Dafydd. Arnat ti, ARGLWYDD, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll.

2Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd.

3Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon.

4Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau.

5Am nad ystyriant weithredoedd yr ARGLWYDD, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt.

6Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD: canys, clybu lef fy ngweddïau.

7Yr ARGLWYDD yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.

8Yr ARGLWYDD sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe.

9Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.

← Llyfr y Salmau 28Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 30 →

Study Llyfr y Salmau 29

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150