Llyfr y Salmau 8
1Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe i’r ARGLWYDD, oblegid geiriau Cus mab Jemini. ARGLWYDD fy NUW, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr a gwared fi:
2Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd.
3ARGLWYDD fy NUW, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo;
4O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
5Erlidied y gelyn fy enaid, a go ddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i’r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela.
6Cyfod, ARGLWYDD, yn dy ddicllonedd, ymddtrcha, oherwydd llid fy ngely: deffro hefyd drosof i’r farn a orchmynnaist.
7Felly cynulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder.
8Yr ARGLWYDD a farn y bobloedd: barn fi, O ARGLWYDD, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.
9Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a’r arennau.
10Fy amddiffyn sydd o DDUW, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.
11Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.
12Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a’i paratôdd.
13Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.
14Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd gelwydd.
15Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd i hefyd yn y clawdd a wnaeth.
16Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun.
17Clodforaf yr ARGLWYDD yn ôl ei gyfiawnder; a chanmolaf enw yr ARGLWYDD goruchaf.