The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 20

1I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Dduw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef.

2Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth.

3Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt,

4Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt;

5Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa.

6O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef.

7Cyfraith yr ARGLWYDD sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr ARGLWYDD sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.

8Deddfau yr ARGLWYDD sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr ARGLWYDD sydd bur, yn goleuo y llygaid.

9Ofn yr ARGLWYDD sydd lân, yn parhau yn dragwydd; barnau yr ARGLWYDD ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd.

10Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl.

11Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir was: o’u cadw y mae gwobr lawer.

12Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig.

13Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer.

14Bydded ymadroddion fy ngenau, myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr.

← Llyfr y Salmau 19Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 21 →

Study Llyfr y Salmau 20

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150