The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 86

1I’r Pencerdd, Salm meibion Cora. Graslon fuost, O ARGLWYDD, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob.

2Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela.

3Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter.

4Tro ni, O DDUW, ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym.

5Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?

6Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?

7Dangos i ni, ARGLWYDD dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth.

8Gwrandawaf beth a ddywed yr ARGLWYDD DDUW: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd.

9Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.

10Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.

11Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd.

12Yr ARGLWYDD hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd.

13Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.

← Llyfr y Salmau 85Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 87 →

Study Llyfr y Salmau 86

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150