The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 73

1i Solomon. O DDUW, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder.

2Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder,a’th drueiniaid â barn.

3Y mynyddoedd a ddygant heddwchi’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder

4Efe a farn, drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd.

5Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd.

6Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.

7Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.

8Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear.

9O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch.

10Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.

11Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef.

12Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo.

13Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus.

14Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.

15Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.

16Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear.

17Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig.

18Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD DDUW, DUW Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.

19Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen.

20Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.

← Llyfr y Salmau 72Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 74 →

Study Llyfr y Salmau 73

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150