The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 82

1I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff. Cenwch yn llafar i DDUW ein cadernid: cenwch yn llawen i DDUW Jacob.

2Cymerwch Salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl.

3Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl.

4Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i DDUW Jacob.

5Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn.

6Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau.

7Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela.

8Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf.

9Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr.

10Myfi yr ARGLWYDD dy DDUW yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf.

11Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai.

12Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain.

13O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd!

14Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.

15Caseion yr ARGLWYDD a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd.

16Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.

← Llyfr y Salmau 81Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 83 →

Study Llyfr y Salmau 82

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150