The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 40

1Dafydd i’r Pencerdd, sef i Jedwthwn. Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg.

2Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd.

3Gwresogodd fy nghalon o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod.

4ARGLWYDD, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi.

5Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela.

6Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl.

7Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O ARGLWYDD? fy ngobaith sydd ynot ti.

8Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd.

9Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.

10Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i.

11Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela.

12Gwrando fy ngweddi, ARGLWYDD, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau.

13Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.

← Llyfr y Salmau 39Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 41 →

Study Llyfr y Salmau 40

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150